Neil Warnock yn cael ei benodi fel rheolwr Caerdydd

Football – FA Premier League – Reading FC v Sheffield United FC
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 5 Oct 2016, 11:22

Caerdydd yn cyhoeddi Neil Warnock fel eu rheolwr newydd ar ôl diswyddo Paul Trollope fel eu prif hyfforddwr.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi penodi Neil Warnock, 67, fel rheolwr newydd y clwb ar ôl i’r clwb ddiswyddo Paul Trollope dydd Mawrth ar ôl dechrau siomedig i’r tymor.

Mewn datganiad dywedodd y clwb y bydd cyn-reolwr Leeds a Sheffield United, Kevin Blackwell hefyd yn ymuno â’r clwb fel is-reolwr.

Cafodd Warnock lwyddiant wrth ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Sheffield United yn 2006 a gyda Queens Park Rangers yn 2011. Hefyd fe lwyddodd i osgoi’r cwymp o’r Bencampwriaeth gyda Rotherham United y tymor diwethaf.

Caerdydd fydd 15fed clwb i Warnock reoli.