Oriel yr Anfarwolion: Paul Harrison

paul-harrison-4
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 8 Jun 2016, 06:00

Llongyfarchiadau i golwr Y Seintiau Newydd, Paul Harrison am gael ei urddo i Orwel yr Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r golwr bellach wedi gwneud 286 ymddangosiad yn UG Cymru, i gyd i’r Seintiau Newydd.

Yn gapten ar y Seintiau erbyn hyn, mae Harrison wedi ennill 15 tlws gyda’r clwb ers ymuno yn haf 2007 – UGC (6), Cwpan Cymru (4), Cwpan y Gynghrair (5).