Pwy allai Cymru eu hwynebu?

International Football – UEFA Euro 2016 France – Group B – Russia v Wales
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 21 Jun 2016, 10:51

Mae Cymru yn camu i rownd yr 16 olaf fel enillwyr Grŵp B ar ôl buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Rwsia a gêm gyfartal rhwng Lloegr a Slofacia.

Gyda’r bencampwriaeth wedi ymestyn i 24 tîm mae hynny’n golygu y bydd yna newidiadau i’r rownd nesaf. Bydd y ddwy wlad sy’n gorffen yr uchaf yn eu grwpiau yn sicr o’u le yn y rownd nesaf gyda’r pedwar tîm gorau i orffen yn y trydydd safle yn cwblhau rownd yr 16 olaf.

Oherwydd bod Cymru wedi gorffen ar frig Grŵp B, bydd Chris Coleman a’i dîm yn herio un o’r timau sy’n gorffen y drydydd safle yn Grŵp A, Grŵp C neu Grŵp D.

Mae Grŵp A eisoes wedi ei gadarnhau, gydag Albania yn gorffen yn drydydd. Ond gyda thri phwynt yn unig a gwahaniaeth goliau gwael, mae yna siawns na fyddent yn gorffen fel un o’r timau trydydd safle gorau.

Os felly, byddai hynny yn golygu gornest yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn y drydydd safle yn Grŵp C (Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Gogledd Iwerddon) neu Grŵp D (Croatia, Y Weriniaeth Siec, Dwrci).

Gogledd Iwerddon sydd yn drydydd safle Grŵp C ar hyn o bryd a byddai unrhyw fath o ganlyniad yn erbyn Yr Almaen heno siŵr a bod yn ddigon i weld nhw trwyddo i’r rownd nesaf.

Y Weriniaeth Siec sydd yn debygol o orffen yn drydydd yn Grŵp D, cyn belled bod nhw’n curo Twrci.

Un peth sydd yn sicr yw bydd Cymru yn chwarae dydd Sadwrn yn y Parc des Princes ym Mharis am 5 o’r gloch.