Rhagolwg: Awstria v Cymru

International Football – Friendly – Wales v Austria
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 5 Oct 2016, 13:27

Nos Iau mi fydd Cymru yn herio Awstria yn yr Ernst Happel Stadion yn Fiena, a bydd uchafbwyntiau estynedig o’r gêm ar Sgorio yn dilyn y gêm am 10:30 ar S4C.

Cymru ac Awstria yw’r ddau ar frig Grŵp D yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 wedi i’r ddwy wlad ennill eu gemau agoriadol fis diwethaf gyda Awstria yn ennill 2-1 yn Georgia a Cymru yn curo Moldofa’n gyfforddus 4-0.

Mae’r gwledydd wedi cwrdd wyth o weithiau yn y gorffennol gyda Awstria yn cael y gorau ar y cyfan yn ennill pum gwaith (62.5%), Cymru yn ennill ddwywaith (25%), cyfartal unwaith (12.5%).

Canlyniadau benben:
06/02/2013 – Cymru 2-1 Awstria
30/03/2005 – Awstria 1-0 Cymru
26/03/2005 – Cymru 0-2 Awstria
29/04/1992 – Awstria 1-1 Cymru
19/11/1975 – Cymru 1-0 Awstria
04/09/1974 – Awstria 2-1 Cymru
23/11/1955 – Cymru 1-2 Awstria
09/05/1954 – Awstria 2-0 Cymru

Cymru oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r gwledydd gwrdd gyda Gareth Bale a Sam Vokes yn rhwydo i’r cochion yn y fuddugoliaeth 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Liberty nôl yn 2013.

Yn yr wyth gêm rhwng y timau does dim un o’r gwledydd erioed wedi sgorio mwy na dwy gôl mewn un gêm.

GWYLIWCH: Ben Davies yn barod am yr her yn Awstria

Roedd Euro 2016 yn un o achlysuron gorau holl-hanes pêl-droed Cymru, tra roedd hi’n fis i’w anghofio i Awstria.

Âr ôl ennill naw o’u 10 gêm yn gemau rhagbrofol Euro 2016 roedd na ddisgwyliad y byddai Awstria yn fygythiad mawr yn Ffrainc, ond roedd eu perfformiad yn hynod siomedig wrth fethu a mynd heibio rownd y grwpiau gyda dim ond un pwynt o’u tair gêm ar ôl colli yn erbyn Hwngari a Gwlad yr Iâ a chael gêm ddi-sgôr yn erbyn Portiwgal.

Mae Awstria yn gobeithio cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers ugain mlynedd (Ffrainc 1998) tra bod Cymru yn anelu i fynd i Gwpan y Byd am dim ond yr eildro (ers Sweden 1958).

Mae’n deg dweud mae Awstria yw’r bygythiad pennaf i Gymru yn y grŵp gyda’r wlad yn 26ain ar restr detholion FIFA, ac ymosodwr Basel, Marc Janko fydd y bygythiad mwyaf ar y cae… yn llythrennol, mae’n 6’5”!

Sgoriodd Janko yn y gêm ddiwethaf rhwng y glwedydd yn 2013 a bydd y cawr o flaenwr yn debygol o arwain yr ymosod i Awstria gan edrych i ychwanegu at ei un gôl yn yr ymgyrch wedi iddo rwydo yn erbyn Georgia fis diwethaf.

Fel arfer, mi fydd gobeithion y Cymry yn syrthio ar ysgwyddau Gareth Bale, yn enwedig yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Gyda 24 gôl i’w wlad, dyw Bale ond angen pum gôl arall i i dorri record Ian Rush (28) fel prif sgoriwr holl hanes Cymru.

Mi fydd Nic Parry a Malcolm Allen yn dod a’r sylwebaeth Gymraeg o Fienna, ac mi fydd cyn-chwaraewyr Cymru, Dai Davies ac Owain Tudur Jones yn ymuno â Dylan Ebenezer yn y stiwdio i ddadansoddi’r perfformiad, cyn i ni wneud y cyfan unwaith eto nos Sul pan fydd Cymru yn herio Georgia wrth i’r daith barhau ar y ffordd i Gwpan y Byd Rwsia 2018.

Uchafbwyntiau Awstria v Cymru ar S4C nos Iau, 6 Hydref am 22:30.