Rhagolwg: Cymru v Serbia

cymru v serbia
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 11 Nov 2016, 14:34

Ar ôl dwy gêm gyfartal ym mis Hydref, bydd Cymru’n wynebu tipyn o her wrth i Serbia deithio i’r brifddinas ar gyfer y gêm ragbrofol ddiweddaraf yng Ngrŵp D, Cwpan y Byd Rwsia 2018. Uchafbwyntiau estynedig ar S4C nos Sadwrn 12 o Dachwedd am 10:30.

Tair blynedd yn ôl, yr ymwelwyr enillodd yr ornest yng Nghaerdydd o dair gôl i ddim mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014. Goliau gan Filip Djordjevic, Alexandar Kolarov a Lazar Markovic roddodd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr y noson honno.

Mae tipyn wedi newid ers hynny, a bydd Cymru yn gobeithio croesawu ambell wyneb cyfarwydd yn ôl i’r maes, ac yn ysu i gadw’r record ddiguro yn y grŵp rhagbrofol.

Grŵp D
Dim ond y tîm sy’n gorffen ar frig grŵp D fydd yn ennill eu lle yn Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia – gyda’r tîm sydd yn gorffen yn yr ail safle yn camu i’r gemau ail-gyfle.

Serbia sy’n rhannu brig y grŵp gyda’r Weriniaeth Iwerddon gydag 7 pwynt o’r tair gêm agoriadol – ac er nad yw Cymru wedi colli hyd yn hyn gan gasglu 5 pwynt – mi fydd rhaid i Gymru sicrhau canlyniad yn erbyn Serbia i rwystro bwlch rhag agor rhwng tîm Chris Coleman a’r ceffylau blaen yng Ngrŵp D.

Newyddion tîm
Mi fydd Aaron Ramsey a Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Serbia ar ôl colli’r gêm gyfartal 1-1 v Georgia yn ôl ym mis Hydref.

Gan sgorio dwy gôl hyd yn hyn yn y gemau rhagbrofol – vs Moldofa ac Awstria – mae Joe Allen wedi serennu mewn crys Cymru yn ddiweddar ac ar nos Fawrth enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn y cefnogwyr a’r chwaraewyr yn Seremoni Wobrwyo’r Gymdeithas Bêl-droed.

Nid yw Ben Davies yn holliach oherwydd anaf i’w bigwrn ac yn methu’r gêm nos Sadwrn, felly yn dychwelyd i’r garfan yn ei le yw amddiffynnwr Sunderland, Adam Matthews – sydd ar fenthyg yn Bristol City.

Benben
Mae record Cymru yn erbyn Serbia yn siomedig gan nid yw Cymru erioed wedi curo Serbia/ Serbia & Montenegro na Iwgoslafia – gan golli 5 a 3 gêm gyfartal.

Yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Serbia mae Cymru wedi ildio 9 gôl – gan golli o 0-3 yn 2012 ac o 6-1 oddi cartref yn Novi Sad yn 2012, y ddwy gêm yn rhan o gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Un i’w wylio: Dušan Tadić
Mae Dušan Tadić o Southampton wedi sgorio 3 a chreu 5 yn yr ymgyrch hyd yma, gan ymnweud â phob un o goliau Serbia yn y gemau rhagbrofol hyd yn hyn.

Sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Cymru yn Novi Sad (6-1) yn 2012 ac erbyn hyn mae’r chwaraewr canol cae ymosodol wedi ennill 41 cap gan sgorio 10 gôl i Serbia.

Ystadegau
Dim ond 4 gôl sydd angen i Gareth Bale sgorio i dorri record Ian Rush o 28 gôl i Gymru. Mae blaenwr Real Madrid wedi sgorio 3 gôl yn yr ymgyrch ragbrofol hon gan ddringo i ail yn rhestr y prif sgorwyr gyda 25 gôl.

Mae Chris Gunter wedi chwarae pob eiliad i Gymru yn y gemau Rhagbrofol, yn ogystal â chwarae ym mhob gêm yn Euro 2016 – gan godi i’r 4ydd safle ar restr capiau holl hanes Cymru. Dim ond 17 cap sydd angen ar Gunter i guro record Neville Southall o 92.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn golwr Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwladol Owain Tudur Jones am uchafbwyntiau estynedig o’r gêm o Stadiwm Dinas Caerdydd am 10:30pm nos Sadwrn Tachwedd 12 ar S4C.