Rhagolwg: MBi Llandudno v Airbus UK

######## cadw tim v tim sgorio sadwrn ########
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 26 Jan 2016, 15:11

Ar ôl rownd derfynol Cwpan Word y penwythnos diwethaf mi fydd camerau Sgorio yn ôl ar Barc MBi Maesdu brynhawn Sadwrn, wrth i MBi Llandudno groesawu Airbus UK yn eu gêm gyntaf ers yr hollt.

MBi Llandudno yw stori’r tymor yn Uwch Gynghrair Cymru, yn dechrau’r penwythnos yn y 3ydd safle, ac ers sefydlu’r ‘Deuddeg Disglair’ yn 2010/11, nhw yw’r tîm cyntaf i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl cael dyrchafiad i’r gynghrair.

Mae Llandudno wedi ennill hanner eu gêmau cynghrair yn eu tymor cyntaf yn UG Cymru (11/22).

Mae gan Llandudno record 100% yn erbyn Airbus y tymor hwn, a dyw tîm Alan Morgan heb ildio yn eu dwy gêm yn erbyn Hogiau’r Maes Awyr yn UGC.

Mae Airbus yn dechrau’r penwythnos yn y 4ydd safle, driphwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn, Llandudno.

Ar ôl chwarae’n Ewrop am y tri tymor diwethaf a bod y bygythiad mwyaf i’r Seintiau Newydd ger brig UG Cymru dros y tymhorau diwethaf, mae Airbus wedi colli gafael ar y pencampwyr eleni.

Adeg yma’r tymor diwethaf roedd gan Airbus chwe phwynt yn fwy wedi’r hollt, a gyda un o’u prif chwaraewyr, Tom Field, wedi gadael ddechrau’r mis i ymuno â Chorley, mae gan dîm Andy Preece her a hanner o’u blaenau os am gyrraedd Ewrop eto eleni.

Ar ôl dweud hynny, mae Airbus ar rediad cryf yn ddiweddar, ac wedi colli dim ond 1 o’u 8 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth gyda phrif sgoriwr y gynghrair, Tony Gray, wedi rhwydo yn eu pedair gêm ddiwethaf.

Ond mae Llandudno yn un o’r 4 clwb nad yw Tony Gray wedi sgorio yn eu herbyn yn UGC y tymor hwn (Llandudno, Rhyl, Bangor, Aberystwyth).

Yn dynn ar sodlau Gray, yn y ras am yr Esgid Aur mae blaenwr Llandudno, Marc Williams, sydd wedi sgorio un yn llai na Tony Gray hyd yma.

Mae’n deg dweud mae Williams oedd arwyddiad gorau’r haf gan ei fod wedi sgorio 14 a chreu 9 o goliau i Landudno y tymor hwn, ac felly wedi cyfrannu at 64% o’u goliau cynghrair.

Felly mae hi’n ‘Llandudno v Airbus UK’, ac yn ‘Marc Williams v Tony Gray’ ddydd Sadwrn, ac er i’r ddau fethu cic o’r smotyn yr un yn eu gemau diwethaf, mae’n sicr y byddent yn benderfynol o ychwanegu at eu cyfanswm goliau dros y penwythnos i geisio camu nes at yr Esgid Aur a rhwystro seren Aberystwyth, Chris Venables, rhag cipio’r wobr am y trydydd tymor yn olynol.

MBi Llandudno v Airbus UK yn FYW ar S4C, dydd Sadwrn 30 Ionawr gyda’r gic gyntaf am 5.15