Portiwgal v Cymru – yn fyw ar S4C

portugal v cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 5 Jul 2016, 12:22

Nos Fercher, mi fydd Cymru yn wynebu Portiwgal yn rownd gynderfynol Euro 2016, gyda’r gêm yn fyw ar S4C am 7:30, y gic gyntaf am 8.

Hon yw’r gêm fwyaf yn hanes tîm cenedlaethol Cymru wrth i garfan Chris Coleman wynebu Portiwgal yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Euro 2016.

Ronaldo v Bale
Er bod y wasg yn trafod y ffaith fod seren Portiwgal, Cristiano Ronaldo am wynebu Gareth Bale, y ddau yn gyd-chwaraewyr yn Real Madrid, roedd ymosodwr Cymru yn barod i wfftio’r teitl yng nghynhadledd y wasg carfan Cymru ddoe, gan honni mae’r ‘’tîm sy’n bwysig. Does dim sêr yn ein tîm ni, rydyn ni gyd yn gweithio fel un’’.

Newyddion timau
Yn anffodus i Gymru mae Aaron Ramsey a Ben Davies wedi ei wahardd am gasglu dau gerdyn melyn.

Mae amheuaeth a fydd amddiffynnwr Portiwgal, Pepe yn holliach i chwarae nos Fercher oherwydd anaf i’w glun, ond mi fydd William Carvalho yn methu’r gêm ar ôl derbyn dau gerdyn melyn.

Ystadegau Ben Ben
Dim ond tair gwaith erioed mae Cymru wedi wynebu A Seleção gyda dwy o’r gemau yn dod dros 60 mlynedd yn ôl.

Mae na 16 mlynedd ers i’r timau gwrdd diwethaf, chwalwyd tîm dibrofiad Cymru 3-0 diolch i goliau gan Figo, Ricardo Sá Pinto a Capucho mewn gêm gyfeillgar cyn Euro 2000.

Ystadegau benben: Cymru ennill 1, Portiwgal ennill 2.

Ystadegau Euro 2016
Yn Euro 2016 dyw Portiwgal heb ennill dim un o’u 5 gem yn Euro 2016 mewn 90 munud. 3 cyfartal yn y grwpiau – curo Croatia yn yr amser ychwanegol a curo Gwlad Pwyl ar giciau o’r smotyn.

Ffrainc yw’r prif sgorwyr y pencampwriaeth (11) gyda Cymru’n ail (10) – dim ond 6 gôl mae Portiwgal wedi ei sgorio mewn pum gêm.

O’r pedwar tîm sy’n weddill, Portiwgal sydd wedi ildio’r nifer fwyaf o goliau (5) – Cymru (4), Ffrainc (4), Yr Almaen (1).

Antoine Griezmann (Ffrainc) yw prif sgorwyr y gystadleuaeth gyda 4 gôl, gyda Gareth Bale yn gydradd ail ar restr prif sgorwyr Euro 2016 gyda 3 gôl – yn hafal â Olivier Giroud a Dimitri Payet (Ffrainc).

O’r pedwar tim sy’n weddill, dim ond Cymru sydd heb daro’r ‘woodwork’ (trawst/postyn) yn Euro 2016.

Rownd gynderfynol Euro 2016, Portiwgal v Cymru yn fyw nos Fercher ar S4C am 7:30, y gic gyntaf am 8.