Rhagolwg: Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair Europa

ewrop
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 30 Jun 2016, 09:53

Fe fydd cynrychiolwyr Uwch Gynghrair Cymru yng Nghynghrair Europa y tymor hwn yn wynebu her Sgandinafaidd yn rownd ragbrofol cyntaf y gystadleuaeth wrth i Landudno a’r Bala deithio i Sweden a gap Cei Connah groesawy Stabæk o Norwy i Gymru.

Rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Europa, cymal cyntaf:
AIK Solna v Bala Town
IFK Göteborg v MBi Llandudno
gap Cei Connah v Stabæk

Fe fydd gemau’r ail gymal yn cael eu cynnal ar y 7fed o Orffennaf.

AIK Solna v Y Bala | Nos Iau – 18:30
Mae’r Bala’n Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes ac yn teithio i Sweden i herio AIK Solna nos Iau. Gorffennodd AIK yn 3ydd yn Allsvenskan (Uwch Gynghrair Sweden) yn 2015, ac mae nhw’n 4ydd yn y tabl ar hyn o bryd.

Mae AIK yn chwarae eu gemau cartref yn y Friends Arena, Stockholm – lle chwaraeodd Cymru yn erbyn Sweden mewn gêm gyfeillgar cyn Ewro 2016. Hefyd o ddiddordeb, y Friends Arena yw lleoliad rownd derfynol Cynghrair Europa y tymor hwn.

AIK Solna yw un o glybiau mwyaf llwyddianus pêl-droed domestig Sweden ac yn bencampwyr cynghrair Allsvenskan ar 11 achlysur, gan hefyd llwyddo i godi cwpan Svenska 8 gwaith.

Enillodd AIK yr Allsvenskan yn 2009 – ond dyw’r clwb heb ennill tlws yn Sweden ers hynny.

O ddiddordeb i dilynwyr Ewro 2016, mae Haukur Heidar Hauksson o garfan AIK yn cynrychioli Gwlad yr Ia yn y gystadleuaeth gyda Patrlk Carlgren, golwg AIK hefyd yng ngharfan Sweden.

Mae’r clwb yn chwarae eu gemau mewn cit du felly mi fydd rhaid i’r cefnogwyr sydd yn teithio i Sweden fynd a’u cit oddi cartref efo nhw!

Fe fydd Y Bala yn chwarae eu cymal cartref yn Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl ar 7 Gorffennaf.

IFK Göteborg v MBi Llandudno | Nos Iau – 18:30
Mi fydd MBi Llandudno hefyd yn teithio i Sweden i herio IFK Göteborg orffennodd yn ail yn Allsvenskan (Uwch Gynghrair Sweden) yn 2015, ac mae nhw’n 5ed yn y tabl ar hyn o bryd.

Mae IFK Göteborg yn chwarae eu gemau cartref yn ail ddinas fwyaf Sweden, sef Gothenburg.

Fel AIK Solna, mae IFK yn un o enwau mawr pêl-droed domestig Sweden gan godi tlws pencampwriaeth Allsvenskan ar 18 achlysur, yn ogywstal â ennill Cynghrair Europa ddwywaith, yn 1981–82 a 1986–87.

Cyrhaeddodd IFK Göteborg rownd gyn derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 1985–86 ac yn 1992–93.

Un o enwau mawr yng ngharfan IFK Göteborg yw Tobias Hysén. Mae’r ymosodwr wedi ennill 34 cap i Sweden gan sgorio 10 gôl, roedd Hysén hefyd yn ran o garfan Ewro 2012 Sweden.

Bydd MBi Llandudno yn chwarae eu cymal cartref yn Stadiwm Prifysgol Bangor ar y 7fed Gorffennaf.

gap Cei Connah v Stabæk | Nos Iau – 19:15
Mi fydd gap Cei Connah yn croesawy Stabæk o Norwy a orffenodd yn drydydd yn yr Tippeligaen (Uwch Gynghrair Norwy) yn 2015, ond mae nhw’n 15fed yn y tabl ar hyn o bryd, un o waelod y gynghrair yn safleoedd y cwymp.

Hon fydd y 12fed tymor i Stabæk gynrychioli Norwy yn Ewrop, wedi pedair mlynedd o absenoldeb o bêl-droed Ewropeaidd.

Cyrhaeddodd Stabæk y rownd ail gyfle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn 2009/10 (ar ôl ennill eu 2il a’u 3edd gem ragbrofol) ac roedden nhw un rownd i ffwrdd o gyrraedd rownd y grwpiau ond fe gollon nhw 7-1 dros ddau gymal yn erbyn Valencia.

Albanwr yw eu rheolwr, Billy McKinlay a chwaraeodd i Blackburn, Caerlŷr a Fulham yn ystod ei yrfa fel chwaraewr.

Fe fydd gap Cei Connah yn chwarae’r cymal cyntaf yn Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl.

Rownd Rhagbrofol 1af Cynghrair Europa
Cymal Cyntaf – 30 Mehefin
Ail Gymal – 7 Gorffennaf

Ail Rownd Rhagbrofol Cynghrair Europa
Y Bala / AIK Solna (Sweden) v FC Pyunik (Armenia) / Europa FC (Gibraltar)
GKS Piast Gliwice (Gwlad Pwyl) v MBi Llandudno / IFK Göteborg (Sweden)
FK Bokelj (Montenegro) / FK Vojvodina (Serbia) v gap Cei Connah / Stabæk Fotball (Norwy)

Cymal Cyntaf – 14 Gorffennaf
Ail Gymal – 21 Gorffennaf