Rhagolwg: Y Seintiau Newydd v Llandudno

######## cadw tim v tim sgorio sadwrn ########
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 13 Oct 2016, 13:42

Brynhawn Sadwrn mi fydd Llandudno yn teithio i gartref y pencampwyr yng Nghroesoswallt mewn gêm gynghrair yn Uwch Gynghrair Cymru gyda’r gic gyntaf am 17:15 yn fyw ar S4C.

Mae’r Seintiau Newydd wedi cael dechrau perffaith i’r tymor ac wedi ennill bob un o’u 10 gêm gynghrair hyd yma, yn ogystal ac ennill eu hunig gêm yng Nghwpan y Gynghrair, a’u gêm gyntaf erioed yng Nghwpan Irn-Bru.

Roedd YSN yn herio Forfar Athletic ym 4edd rownd Cwpan Irn-Bru y Sadwrn diwethaf, a’r Seintiau oedd yn fuddugol wrth ennill 1-3 yn erbyn y tîm o Adran 2 yr Alban, diolch i hat-tric Greg Draper.

Mi fydd y Seintiau yn herio Livingston yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth fis nesaf, felly mae breuddwyd y ‘Quadruple’ dal yn fyw i Craig Harrison eleni!

Mae her a hanner yn wynebu Llandudno brynhawn Sul gan nad yw’r clwb wedi ennill dim un o’u pum gêm flaenorol yn erbyn y Seintiau.

Does dim deufis wedi mynd heibio ers i Landudno ddioddef eu colled trymaf erioed yn UG Cymru pan gollon nhw 0-5 gartref yn erbyn YSN.

Mae Llandudno wedi bod yn gryf yn amddiffynnol gan ildio dim ond 10 gôl mewn 10 gêm, gyda pump o rheiny yn cael eu sgorio yn yr un gêm honno gan y Seintiau Newydd.

Mae tîm Alan Morgan wedi cadw pum llechen lân mewn 10 gêm – dim ond gap Cei Connah (7) sydd wedi cael mwy.

Bydd Lewis Buckley yn gobeithio ail-adrodd ei gampau o’r tro diwethaf iddo chwarae o flaen camerau Sgorio, pan rwydodd o’r cylch canol yn erbyn Airbus UK bythefnos yn ôl – gôl sydd wedi’w gwylio dros 50,000 o weithiau ar y gwefannau cymdeithasol.

Byddai buddugoliaeth i’r Seintiau yn golygu eu bod wedi cael eu dechrau gorau erioed i dymor yn UG Cymru, gan fynd un ymhellach na’u 10 buddugoliaeth yn olynol ar ddechrau tymor 2003/04.

Ond mae angen chwe buddugoliaeth arall ar griw Craig Harrison i dorri record Bangor o ennill 15 gêm gynta’r tymor nôl yn UGC 2010/11, a gyda’r Seintiau yn llwyr reoli ar hyn o bryd, byddai neb yn synnu pe bae nhw yn torri’r record hwnnw.

Y Seintiau Newydd v Llandudno yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 15 Hydref am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.