Rooney yn arwyddo i Wrecsam

item_jake_phillips-1
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 8 Jun 2016, 13:43

Mae John Rooney sef brawd 25 mlwydd oed yr enwog Wayne Rooney wedi ymuno â Chlwb Pêl-Droed Wrecsam.

Mae cyn chwarewr Gaer wedi ymuno ar gytundeb un blwyddyn ar ol iddo chwarae dros 100 o gemau i un o elynion Wrecsam.

Mae Rooney yn gallu chwarae yng nghanol cae neu fel ymosodwr.

Cychwynnodd ei yrfa yn Everton cyn symud i glwb Macclesfield lle chwaraeoedd 41 o gemau cyn symud i America ble chwaraeoedd i’r New York Red Bulls ac i Orlando City.
Disgrifiodd John Ronney Wrecsam fel clwb enfawr ac yn fuan ar ôl cael sgwrs hefo’r rheolwr Gary Mills roedd yn hyderus bod llwyddiant i’w gael ar y Cae Ras.

Dywedodd hefyd ei fod yn hyderus bod gan y Dreigiau y gallu i gystadlu am y gynghrhair y tymor nesaf.

Sgoriodd ei frawd enwog, Wayne Rooney, ei goliau cyntaf i Everton pan sgoriodd ddwywaith yn erbyn Wrecsam ar y Cae Ras yng Nghwpan y Gynghrair yn Hydref 2002 gan dorri’r record fel y sgoriwr ieuengaf yn holl hanes Everton.