Rwsia 0-3 Cymru

International Football – UEFA Euro 2016 France – Group B – Russia v Wales
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 20 Meh 2016, 21:55

Mae Cymru wedi gorffen ar frig Grŵp B ar ôl trechu Rwsia 0-3, ac wedi i Loegr gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Slofacia.

Mae Cymru wedi sicrhau eu lle yn rownd 16 olaf Euro 2016 ac hefyd wedi sicrhau osgoi y timau cryfaf yn y rownd nesaf.

Y tebygolrwydd yw y bydd Cymru yn herio unai Albania, Gogledd Iwerddon, Croatia neu Gweriniaeth Tsiec brynhawn Sadwrn ym Mharis.

Sgoriodd Aaron Ramsey y gôl agoriadol wedi 11 munud yn dilyn pas dreiddgar gan Joe Allen, cyn i Ramsey godi’r bêl yn hyfryd gyda chyffyrddiad tyner dros y golwr, Igor Akinfeev.

Roedd hi’n 0-2 i’r cochion cyn yr egwyl wrth i Neil Taylor sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad wedi 20 munud.

Cyn y gêm doedd Neil Taylor heb sgorio i’w glwb nac i’w wlad (186 gêm!) ond doedd dim amser gwell i sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru wrth iddo amseru rhediad da i’r cwrt, taro ei gynnig cyntaf yn erbyn y golwr ond ymateb yn wych i blannu’r ail gynnig i gefn y rhwyd.

Sicrhawyd y fuddgoliaeth wedi 67 munud wedi i seren y gêm, Aaron Ramsey, redeg ar draws yr amddiffyn a bwydo pas glyfar i lwybr Gareth Bale a gurodd Akinfeev gyda’r tu allan i’w droed chwith i’w gwneud hi’n 0-3 ac i roi Gareth Bale ar frig rhestr prif sgorwyr Euro 2016 gyda tair gôl mewn tair gêm.

Cymru a Sbaen yw’r unig ddau dim i lwyddo i sgorio tair gôl mewn gêm yn Euro 2016 hyd yma.

Gorffenodd gêm Lloegr a Slofacia yn ddi-sgôr sy’n golygu bod Cymru yn ennill Grŵp B a bod Lloegr yn mynd ymlaen i rownd yr 16 olaf yn yr 2il safle.