Sgorio

la liga generic
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 17 Oct 2016, 11:36

Ymunwch â Morgan Jones am holl gyffro La Liga yn Sbaen ac Uwch Gynghrair Cymru Dafabet. Dydd Llun am 6:30 ar S4C.

Wedi’r toriad rhyngwladol, bydd La Liga yn dychwelyd, gyda Barcelona yn gobeithio ymateb i’r sioc o golli yn erbyn Celta wrth herio Deportivo yn y Camp Nou. Taith i ddinas Seville i wynebu Betis yn y Benito Villamarin sy’n wynebu Real Madrid, tra bod eu cymdogion, Atletico, gartref yn erbyn Granada.

Canlyniadau La Liga:
Alaves 1-1 Malaga
Athletic Bilbao 3-2 Real Sociedad
Sporting Gijon 1-2 Valencia
Villarreal 5-0 Celta Vigo
Leganes 2-3 Sevilla
Barcelona 4-0 Deportivo La Coruna
Atletico Madrid 7-1 Granada
Real Betis 1-6 Real Madrid
Las Palmas 0-0 Espanyol

Yn Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, y brif gêm yw honno rhwng Y Seintiau Newydd a Llandudno tra bo’ gap Cei Connah yn wynebu Bangor ar Lannau Dyfrdwy. Ymhlith y gemau eraill bydd Aberystwyth yn herio’r Rhyl, Caerfyrddin yn croesawu’r Drenewydd i Barc Waun Dew, Y Bala benben ag Airbus UK a’r newydd-ddyfodiaid yn cwrdd wrth i Met Caerdydd chwarae Derwyddon Cefn yn y brifddinas.

Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru Dafabet:
gap Cei Connah 2–2 Bangor
Met Caerdydd 5–0 Derwyddon Cefn
Y Bala 3–3 Airbus UK
Y Seintiau Newydd 5–0 Llandudno
Caerfyrddin 3–1 Y Drenewydd
Aberystwyth 4–0 Y Rhyl