Sgorio: Bangor v Y Rhyl

######## cadw tim v tim sgorio sadwrn ########
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 17 Hyd 2016, 11:48

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John, Owain Tudur Jones ac Is-Reolwr Cymru Osian Roberts am gêm ddarbi fwyaf Uwch Gynghrair Cymru Dafabet rhwng Bangor a’r Rhyl yn Stadiwm Prifysgol Bangor (y gic gyntaf am 5.15). Dydd Sadwrn am 5 ar S4C.

Blwyddyn yn ôl roedd dau gawr y gogledd yn straffaglu yn hanner isaf yr Uwch Gynghrair, ond dan arweiniad newydd Andy Legg a Niall McGuinness mae hi wedi bod yn dymor tipyn gwell ond mymryn yn anghyson i’r Gleision a’r Lilis Gwynion.

Toby Jones sgoriodd yr unig gôl mewn gêm gyffrous rhwng yr hen elynion o flaen dros fil o gefnogwyr yn Y Rhyl ym mis Medi. O ganlyniad, bydd Andy Legg yn gweld hwn fel cyfle da i dalu’r pwyth yn ôl a symud gam yn agosach at selio lle yn hanner ucha’r tabl er mwyn pwyso am antur Ewropeaidd arall.

Bydd gwasanaeth goliau a chanlyniadau’r prynhawn, yn ogystal â rhagolwg o’r gêm yn dechrau am 4.30 ar s4c.cymru/sgorio.