Sgorio, Nos Lun am 6:30

sgorio wesbite

Ymunwch â Morgan Jones am y gorau o Uwch Gynghrair Cymru Dafabet am 6:30 ar S4C.

Yn hanner ucha’r Uwch Gynghrair mae’r timau ar y brig yn gwynebu gemau caled dros penwythnos y Pasg, gyda’r Seintiau Newydd yn gwynebu’r Drenewydd a’r Bala yn croesawu Airbus UK i Faes Tegid – gyda’r Y Seintiau a’r Bala yn brwydro am y bencampwriaeth. Mi fydd y frwydr rhwng MBi Llandudno a gap Cei Connah yn gêm allweddol yn y ras am safleoedd Ewropeaidd.

Tua’r hanner isaf, mae’r Rhyl yn gwynebu taith lletchwith am Aberystwyth yn angen y triphwynt i gael unrhyw obaith o aros yn y brif adran.

Sgorio, y gorau o gyffro Uwch Gynghrair Cymru pob nos Lun am 6:30, S4C.