Y pyndits yn proffwydo: Euro 2016

Pêl Euro 2016
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 9 Meh 2016, 07:00

Gyda dim ond diwrnod tan gêm agoriadol Pencampwriaeth Euro 2016, mae’r amser wedi dod i’r arbenigwyr roi eu pennau ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn y twrnament.

Mae pob un o’r pyndits yn proffwydo y bydd Cymru’n llwyddo i ddianc o Grŵp B ond mae Malcolm Allen, Owain Tudur Jones a Dylan Ebenezer yn gweld Cymru’n cyrraedd Rownd yr Wyth Olaf ac fwy gobeithiol nac Iwan Roberts a Nic Parry, sy’n darogan y bydd Cymru’n gadael y gystadleuaeth yn yr Ail Rownd.

Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur yn gytûn mai’r tîm cartref – Ffrainc – fydd Pencampwyr Ewrop, tra bod Nic Parry’n proffwydo bydd y tlws yn croesi’r ffin i Wlad Belg.

Yr Almaen yw dewis Iwan Roberts ac mae Dylan Ebenezer yn darogan mae tîm o Grŵp B fydd yn codi’r tlws, ond Lloegr yw ei ddewis, nid Cymru!

Mae Iwan Roberts ac Owain Tudur ill dau yn darogan mai Awstria fydd y tîm annisgwyl i’w gwylio, gwlad sydd yn yr un grŵp rhagbrofol â Chymru ar gyfer Cwpan y Byd 2018.

Mae dau Gymro wedi eu dewis fel y chwaraewr i’w wylio dros y Bencampwriaeth – Iwan Roberts yn dewis Gareth Bale a Dylan Ebenezer yn dewis Aaron Ramsey.

Y Ffrancwr Antoine Griezmann yw’r dyn i’w wylio yn ôl Malcolm Allen tra bod Nic Parry’n rhagweld y Sais Dele Alli yn gwneud ei farc. Yn ôl Owain Tudur Jones, seren Euro 2016 fydd Zlatan Ibrahimovic yn ei brif dwrnament olaf.

Y pyndits yn proffwydo:

EURO 2016 Malcolm Allen Iwan Roberts Owain Tudur Jones Dylan Ebenezer Nic Parry
Cymru 8 olaf Ail rownd 8 olaf 8 olaf Ail rownd
Enillwyr Euro 2016 Ffrainc Yr Almaen Ffrainc Lloegr Gwlad Belg
Tîm annisgwyl Gwlad yr Iâ Awstria Awstria Croatia Gwlad Belg
Seren Euro 2016 Antoine Griezmann Gareth Bale Zlatan Ibrahimovic Aaron Ramsey Dele Alli