Y Seintiau Newydd yn hafal â record byd Ajax

15094491_1240532356005110_2438127216769119618_n
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 26 Dec 2016, 16:46

Mae’r Seintiau wedi dod yn hafal â record y byd ar ôl curo Derwyddon Cefn 4-0 i’w gwneud hi’n 26 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, record â osodwyd yn 1971/72 gan Ajax.

Mi fydd Y Seintiau yn teithio i’r Graig i herio’r Derwyddon Cefn nos Wener nesaf, lle fydd siawns i dîm Craig Harrison dorri record y byd am y nifer o fuddugoliaethau yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Gyda 26 buddugoliaeth mewn 26 gêm i’r Seintiau Newydd y tymor hwn mae hi wedi bod yn ddechrau perffaith i’r tymor i dîm Craig Harrison.

Mae’r Seintiau wedi ennill eu 20 gêm gynghrair yn 2016/17 gan agor bwlch o 21 pwynt ar y brig yn ogystal ac ennill eu tair gêm yng Nghwpan y Gynghrair, eu dwy gêm yng Nghwpan Irn-Bru, a’u hunig gêm yng Nghwpan Cymru.