Sgorio

moratta 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 7 May 2017, 14:23

Ymunwch â Morgan Jones am y gorau o Sbaen a Chymru. Sgorio nos Lun am 6:30 ar S4C

Yng Nghymru mae hi’n benwythnos o freuddwydio am drysorau Ewropeaidd yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, gyda Bangor benben â’r Drenewydd a Chaerfyrddin yn herio Met Caerdydd.

Yn La Liga, mae Real Madrid ar daith i Granada sydd reit ar waelod y tabl tra bo Barcelona yn wynebu her gartref yn erbyn Villarreal; Atletico yn croesawu Eibar i’r Calderon a Sevilla yn herio Real Sociedad.