5-y-penwythnos

sgorio_5 (002)

Sgorio sydd yn dewis tîm 5-bob-ochr Uwch Gynghrair Cymru.

Owen Evans (Y Rhyl)
Mae cyfnod Owen Evans ar fenthyg gyda Y Rhyl o Wigan Athletic wedi dod i ben ac fe orffenodd ei amser gyda’r clwb gyda perfformiad cadarn i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Y Bala. Roedd hi’n grasfa i’r Claerwynion ar ddydd San Steffan wrth i’r Bala eu curo’n hawdd (6-1) gyda Lee Hunt yn casglu hat-tric i’r tîm cartref. Ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach fe lwyddodd Y Rhyl i dalu’r pwyth yn ôl wrth guro’r Bala 2-0 i ddod a rhediad gwych tîm Colin Caton i ben ar ôl naw buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth. Tridie yn ddiweddarach roedd Owen Evans ar y fainc i Wigan gartref yn erbyn Huddersfield yn y Bencampwriaeth.

George Horan (gap Cei Connah)
Dychwelodd George Horan i dîm gap Cei Connah ar ôl pedwar mis allan o’r garfan gydag anaf, ac ni fyddai wedi gallu breuddwydio am gêm well yn ei ymddangosiad cyntaf ers mis Awst. Sgoriodd Horan hat-tric i’r Nomadiaid mewn buddugoliaeth 5-1 gartref yn erbyn Airbus UK. Daeth pum gôl Cei Connah o giciau gosod (eu saith gôl ddiwethaf wedi dod o giciau gosod) a gyda’r cawr Horan yn ôl yn y garfan mae Cei Connah yn sicr am fod yn beryglus o giciau cornel a ciciau rhydd am weddill y tymor.

Joe Clarke (Aberystwyth)
Sgoriodd Joe Clarke ddwy gôl ddramatig i Aberystwyth ar Barc Latham brynhawn Sadwrn. Y gyntaf yn foli felys o du allan y cwrt i’r gornel uchaf, a’r ail yn yr eiliadau olaf i gipio pwynt i’w dîm ac i gadw Aber yn y ras am y Chwech Uchaf. Doedd y chwaraewr canol cae heb sgorio i’w glwb newydd tan y penwythnos yma, ond roedd hi werth disgwyl am y gôl gyntaf hedfanodd heibio Dave Jones i gefn y rhwyd.

Mark Jones (Caerfyrddin)
Aeth Caerfyrddin ar ei hôl hi yng Nghyncoed ddydd Sadwrn ond fe frwydron nhw nôl i’w cadw yn y 6ed safle gyda un gêm yn weddill tan yr hollt. Rhwydodd Mark Jones o’r smotyn i ddod a’r sgôr yn gyfartal cyn plannu peniad pwerus i gefn y rhwyd i sicrhau’r triphwynt i dîm Mark Aizlewood. Mae’r ymosodwr corfforol wedi sgorio saith a chreu saith gôl i Gaerfyrddin yn UGC y tymor yma.

Marc Williams (Llandudno)
Roedd na olwg o ryddhad ar wyneb Marc Williams wedi iddo gladdu unig gôl y gêm yn erbyn Bangor ar ddydd Calan. Dyw ‘Chwaraewr y Tymor’ llynedd heb gael tymor cystal eleni, ac mae wedi dioddef gydag anafiadau sydd wedi effeithio ar ei berfformiadau. Roedd angen buddugoliaeth ar Landudno i aros yn y ras am y Chwech Uchaf, a gôl Marc Williams sicrhaodd y bydd tîm Alan Morgan yn dal i frwydro am le yn yr Hanner Uchaf ar y penwythnos olaf cyn yr hollt.