5-y-penwythnos

5 pen
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 28 Aug 2017, 16:58

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.

Connor Roberts – Bangor
Ail Fuddugoliaeth yn olynol i Fangor ar gae Nantporth wrth i’r Dinasyddion guro Prestatyn 1-0 o flaen camerau Sgorio. Llwyddodd Connor Roberts i brofi’n werthfawr rhwng y pyst eto gan rwystro siot Jack Kenny yn yr hanner cyntaf ac yn creu arbediad allweddol yn yr ail hanner i sicrhau’r triphwynt i dîm Kevin Nicholson.

Nathan Burke – Y Bala
Sgoriodd Nathan Burke ei gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru yn y fuddugoliaeth (2-1) yn erbyn Met Caerdydd ar ddydd Sadwrn. Roedd y fuddugoliaeth yn codi tîm Colin Caton i’r 6ed safle ar ôl canlyniad siomedig (3-0) yn erbyn Y Seintiau Newydd penwythnos diwethaf.

Jamie Price – Y Drenewydd
Er Jamie Reed sgoriodd ddwywaith i’r Drenewydd yn eu buddugoliaeth cyntaf o’r tymor ar Barc Latham yn erbyn Caerfyrddin (4-1), Jamie Price sydd yn hawlio ei le yn nhîm 5-y-penwythnos ar ôl sgorio cic-rydd ragorol i unioni’r sgôr. Roedd Price hefyd yn fygythiad i’r Robiniaid drwy’r gêm gan greu cyfleoedd ymosodol da i’r tîm cartref.

Michael Pritchard – Derwyddon Cefn
Agorodd Michael Pritchard y sgorio ar ei 50fed gêm yn Uwch Gynghrair Cymru wrth i Derwyddon Cefn sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf (2-0) o’r tymor yn erbyn Aberystwyth ar Y Graig.

Toby Jones – Llandudno
Sgoriodd Jones ei gôl gyntaf i Landudno ers symyd o’r Rhyl dros yr haf ym muddugoliaeth tîm Alan Morgan dros Cei Connah (1-0), gyda’r gôl yn cadw dechreuad perffaith Llandudno i fynd wrth ennill eu tair gêm agoriadol o’r tymor.