5-y-Penwythnos

5 y pen

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.

Will Fuller – Met Caerdydd
Mae Will Fuller yn ymddangos yn nhîm 5-y-Penwythnos am yr ail dro’r tymor hwn ar ôl buddugoliaeth 0-2 Met Caerdydd dros Aberystwyth. Llwyddodd Fuller i gasglu ei ail lechen lân o’r tymor gan arbed cyfleon Geoff Kellaway yn dda naill ochr i’r egwyl.

Jamie Mullan – Y Seintiau Newydd
Ar ôl dechrau siomedig i dymor Y Seintiau Newydd yn erbyn Bangor ar y penwythnos agoriadol, mae tîm Scott Ruscoe wedi mynd ymlaen i ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn olynol ym mhob cystadleuaeth. Bu Jamie Mullan yn serennu i’r Seintiau yn eu buddugoliaeth dros Derwyddon Cefn nos Wener ddiwethaf gan sgorio’r gôl agoriadol a chreu’r ail gôl mewn buddugoliaeth 4-0.

Laurence Wilson – Bangor
Cic-rydd ragorol Laurence Wilson yn sicrhau’r triphwynt i’r Dinasyddion yn erbyn Caerfyrddin prynhawn Sadwrn. Dyma gôl gyntaf Wilson yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn yn nhrydedd buddugoliaeth Bangor o’r tymor.

Michael Wilde – Cei Connah
Wilde yn sgorio unig gôl y gêm rhwng Cei Connah a’r Bala i sicrhau’r triphwynt i dîm Andy Morrison. Gôl rhif 157 Michael Wilde yn ei godi i’r 6ed safle ar restr prif sgorwyr holl hanes Uwch Gynghrair Cymru.

Kayne McLaggon – Y Barri
Sgoriodd McLaggon ddwywaith ym muddugoliaeth gyntaf Y Barri o’r tymor ar Barc Jenner prynhawn Sadwrn yn erbyn Y Drenewydd (2-0). Dyma goliau cyntaf Kayne McLaggon yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl arwyddo i’r Barri o Ferthyr Tydfil dros yr Haf.