5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros yr wythnos ddiwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Will Fuller (Met Caerdydd)
Mae Will Fuller yn cadw ei le yn nhîm y penwythnos ar ôl perfformiad cadarn rhwng y pyst welodd Met Caerdydd yn curo Bangor am yr eildro’r tymor hwn. Roedd angen i’r myfyrwyr ddangos dipyn o gymeriad i ennill y gêm ar ôl mynd 2-0 ar ei hôl hi, ond mae’r triphwynt wedi eu codi i’r ail safle a’u gadael dim ond un pwynt tu ôl i’r Seintiau Newydd.

Jordan Evans (Y Bala)
Rhyddhad i Colin Caton nos Iau wrth i Jordan Evans ysbrydoli’r Bala i ennill am y tro cyntaf ers mis Awst. Sgoriodd Evans ddwywaith ar Barc Latham i ddod a rhediad Y Bala o chwe gêm heb fuddugoliaeth i ben.

Jamie Mullan (Y Seintiau Newydd)
Mae Jamie Mullan wedi bod yn un o chwaraewyr amlyca’r gynghrair y tymor yma, yn serennu’n gyson ar yr asgell i’r Seintiau. Roedd hi’n gêm hynod un-ochrog yn erbyn Prestatyn brynhawn Sadwrn, ac yn syml roedd y Seintiau’n rhy gryf i dîm Neil Gibson. Does neb wedi creu mwy o goliau na Mullan yn UGC y tymor hwn (4), ac fe sgoriodd ei drydedd o’r tymor dros y penwythnos.

Ryan Wignall (Cei Connah)
Mae Wignall wedi edrych yn hynod o fywiog ar yr asgell i Gei Connah y tymor hwn, a fyntau oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Cymru Tyres ddydd Sadwrn gan iddo sgorio’r gynta a chreu’r ail i sicrhau’r triphwynt i dîm Andy Morrison. Fel Jamie Mullan, mae Wignall hefyd wedi creu pedair gôl yn UGC y tymor yma – yn hafal am y nifer fwyaf yn y gynghrair.

Eliot Evans (Met Caerdydd)
Roedd Eliot Evans yn anlwcus i beidio cael ei le yn 5-y-penwythnos yr wythnos ddiwethaf ar ôl perfformiad arbennig yn erbyn Llandudno… ond ar ôl sgorio dwy a chreu un yn erbyn y clwb oedd ar y brig brynhawn Sadwrn, does dim amheuaeth ei fod yn haeddu ei le yr wythnos hon. Mae Evans bellach wedi sgorio 10 gôl yn UGC, ac mae saith o rheiny wedi dod yn erbyn Bangor!

Heddiw mewn hanes

18 Tachwedd

Chwaraeodd Caneris Caernarfon gêm bêl-droed am y tro cyntaf ar y diwrnod yma ym 1876