5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros yr wythnos ddiwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Paul Harrison – Y Seintiau Newydd
Roedd rhaid i’r pencampwyr alw ar eu golwr, Paul Harrison ddwywaith yn yr hanner cyntaf i gadw Met Caerdydd rag sgorio. Roedd cyfraniad Harrison yn allweddol wrth i’r Seintiau Newydd gadw eu gafael ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Met Caerdydd 2-1.

Cyn y penwythnos roedd Met Caerdydd yn yr ail safle a dim ond pwynt tu ôl i’r Seintiau Newydd, ond wedi’r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn mae’r pencampwyr, YSN wedi symud triphwynt yn glir o Gei Connah sydd wedi dringo i’r ail safle a phedwar pwynt yn glir o Met Caerdydd.

Declan Walker – Aberystwyth
Sgoriodd Walker ei drydedd gôl o’r tymor wrth i Aberystwyth sicrhau triphwynt allweddol oddi cartref ym Mhrestatyn. Er bod tîm Neville Powell ar ei hol hi o 1-0 wedi 10 munud o chwarae, llwyddodd Aber i ddod yn ôl ac ennill y gêm diolch i goliau John Owen a Declan Walker. Dyma ail fuddugoliaeth Aberystwyth y tymor hwn, ac mae’n ymweld fod tîm Powell wedi troi’r gornel gan gasglu pwyntiau o bedair o’u pum gêm ddiwethaf ar ôl dechrau siomedig i’r tymor.

George Horan – Cei Connah
Peniodd yr amddiffynnwr George Horan Cei Connah i fuddugoliaeth ar Barc Jenner ddydd Sul. Llwyddodd tîm Andy Morrison i gadw eu pumed lechen lan gan guro’r Barri 0-1 a dringo i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Jamie Mullan – Y Seintiau Newydd
Profodd Mullan eto ei fod yn ran allweddol o dîm Y Seintiau Newydd gan greu’r gôl agoriadol yn erbyn Met Caerdydd prynhawn Sadwrn. Llwyddodd Mullan i guro ei amddiffynnwr a darganfod Jon Routledge yn rhydd y cwrt cosbi.

Mae’r asgellwr wedi creu 6 gôl y tymor hwn, mwy na’r un chwaraewr arall yn Uwch Gynghrair Cymru.

Jordan Evans – Y Bala
Roedd fflach o hud o droed chwith Jordan Evans yn ddigon i selio’r pwyntiau i’r Bala oddi cartref ar Barc Waun Dew nos Sadwrn. Sgoriodd Jordan Evans un o goliau’r tymor hyd yn hyn gan guro Lee Idzi o du allan i’r cwrt cosbi. Dyma drydedd fuddugoliaeth Y Bala yn olynol gyda tîm Colin Caton yn dringo’r tabl wedi dechrau siomedig i’r tymor.