5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr o Uwch Gynghrair Cymru sydd wedi serennu dros yr wythnos ddiwethaf.

Matthew Hall (Bangor)
Sicrhaodd Bangor eu buddugoliaeth fwyaf o’r tymor drwy drechu’r Bala 5-0 nos Wener. Hon oedd eu buddugoliaeth fwyaf yn UGC ers pum mlynedd pan enillodd Bangor o’r un sgôr yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn Hydref 2012. Ond doedd hi ddim yn noson hawdd i Matthew Hall rhwng y pyst i’r Dinasyddion er i’r golwr ifanc gadw ei ail lechen lân yn olynol. Mae’r golwr 20 oed wedi disodli Connor Roberts rhwng y pyst ac wedi dechrau’r bum gêm ddiwethaf i’r Dinasyddion gan helpu’r tîm i ennill eu pedair gêm ddiwethaf.

Danny Hughes (Llandudno)
Sgoriodd Danny Hughes ddwywaith ym muddugoliaeth Llandudno oddi cartref ym Mhrestatyn nos Wener (1-3). Mae Hughes bellach wedi rhwydo chwe gôl y tymor hwn, gan dorri ei record blaenorol (4 gôl yn 2015/16). Hon oedd buddugoliaeth cyntaf Iwan Williams wrth y llyw yn Llandudno ac mi fydd yn gobeithio am yr un safon yn eu gemau cynghrair nesaf yn erbyn Caerfyrddin a’r Drenewydd.

Luke Wall (Bangor)
Rhwydodd Luke Wall ddwywaith a chreu un gôl arall wrth i Fangor sicrhau eu buddugoliaeth gorau’n UG Cymru ers pum mlynedd. Mae Wall wedi bod yn fywiog ac yn llawn hyder ers ymuno â’r Dinasyddion dros yr haf, ac mae’r asgellwr corfforol wedi sgorio tair a chreu tair gôl gynghrair y tymor yma.

Jamie Mullan (Y Seintiau Newydd)
Gydag un gôl a dau ‘assist’ yn erbyn Caerfyrddin brynhawn Sadwrn, mae asgellwr chwim y Seintiau, Jamie Mullan yn gwneud ymddangosiad arall yn nhîm 5-y-penwythnos. Mae Mullan wedi bod yn un o sêr amlycaf y gynghrair y tymor hwn ac mae ar frig rhestr y creuwyr gydag wyth ‘assist’ yn UGC 2017/18.

Craig Hobson (Aberystwyth)
Dringodd Aberystwyth allan o’r ddau isaf ar ôl curo’r Drenewydd 3-0 ar Goedlan y Parc nos Wener. Sgoriodd Hobson ddwywaith yn yr ail hanner i sicrhau dim ond ail buddugoliaeth gartref i Aberystwyth y tymor hwn. Mae Aber yn wynebu cwpl o gemau caled yn yr wythnosau nesaf gyda gêm gwpan yn erbyn Y Bala Sadwrn nesaf cyn teithio i Gei Connah y penwythnos canlynol.