Bangor yn sicrhau eu lle yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa

llun bangr
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 13 May 2017, 18:54

Rittenberg yn sgorio unig gôl rownd derfynol y gemau ail gyfle wrth i Fangor guro Met Caerdydd gan sicrhau pêl-droed Ewropeaidd i’r Dinasyddion y tymor nesaf.

Llwyddodd Bangor i ennill eu lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa y tymor nesaf gan sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf ers tair mlynedd, yn ogystal â ennill gwobr ariannol o €215,000.

Mae’r Dinasyddion yn ymuno â Cei Connah a’r Bala yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa, gyda’r Seintiau Newydd yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mi fydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Y Swistir ar 19 Mehefin a’r gemau rhagbrofol cyntaf i’w chwarae wythnos yn ddiweddarach (27-29 Mehefin).