Caerfyrddin v Met Caerdydd

######## cadw tim v tim sgorio sadwrn ########
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 1 May 2017, 18:36

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John ac Owain Tudur Jones am rownd gynderfynol gemau ail gyfle Ewrop rhwng Caerfyrddin a Met Caerdydd yn Stadiwm Cymru Tyres, dydd Sul 7 Mai am 2:00, gyda’r gic gyntaf am 2:15.

Tra bo Bangor yn herio’r Drenewydd yn y rownd gynderfynol arall, mae’r Hen Aur a’r glaslanciau yn mynd benben am le yn y rownd derfynol. Mae yna ddegawd ers i Gaerfyrddin brofi antur Ewropeaidd ond dan arweiniad craff Mark Aizlewood maen nhw wedi synnu pawb wrth orffen yn y pumed safle y tymor hwn.

Mae carfan Aizelwood yn gryf, yn drefnus ac yn barod am yr her. Mae Met Caerdydd wedi mwynhau tipyn o lwyddiant yn eu tymor cyntaf erioed ar y lefel uchaf, a byddai hi’n stori tylwyth teg go iawn petai’r myfyrwyr yn cael cystadlu ar lwyfan Ewropeaidd. Gall rhaglenni sy’n dilyn newid.