Caernarfon v Y Rhyl – yn fyw ar Sgorio

Caernarfon v Rhyl
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 23 Jan 2017, 12:49

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar gyfer gêm fwyaf pedwaredd Rownd Cwpan Cymru JD ar Yr Oval wrth i Gaernarfon herio’r Rhyl. Yn fyw dydd Sadwrn Ionawr 28 am 17:00 ar S4C.

Diffyg trwydded rwystrodd Caernarfon rhag ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl ennill Cynghrair Huws Gray. Ac er bod y Caneris yn anelu at godi i Uwch Gynghrair y tymor hwn, bydd wynebu’r Rhyl yn gyfle perffaith iddynt fesur eu gallu yn erbyn clwb o’r uwch adran.

Bydd torf sylweddol ar Yr Oval i weld brwydr leol rhwng dau glwb sy’n cael eu harwain gan ddau hyfforddwr ifanc, brwdfrydig ac uchelgeisiol – Iwan Williams a Niall McGuinness.

Yn ogystal, bydd gwasanaeth canlyniadau’r prynhawn a rhagolwg o’r gêm fyw am 4.30 ar s4c.cymru/sgorio. Gall rhaglenni sy’n dilyn newid.

Caernarfon v Y Rhyl ym Mhedwaredd Rownd Cwpan Cymru JD yn fyw dydd Sadwrn (28/01/2017) ar S4C am 17:00.