Clybiau Cymru yn barod am yr ail gymal yng Nghynghrair Europa

NCM_2762
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 5 Jul 2017, 15:01

Mae’r Bala, Bangor a Cei Connah yn edrych ymlaen at gemau heriol yng Nghynghrair Europa ar nos Iau, 6 Gorffennaf.

Ail Gymal, Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair Europa:
HJK (0) v (1) Cei Connah – 17:00, Stadiwm Helsinki
Vaduz (2) v (1) Y Bala – 18:00, Rheinpark Stadion
Bangor (0) v (1) Lyngby – 18:30, Stadiwm Prifysgol Bangor

Roedd na ganlyniadau calonogol i’r tri clwb o Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos ddiwethaf yn eu cymalau cyntaf yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa gyda Cei Connah yn synnu pawb wrth guro HJK Helsinki (1-0) diolch i gôl Nathan Woolfe ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Wrth ystyried bod HJK ar frig Uwch Gynghrair Y Ffindir, mae’r canlyniad yn cael ei ystyried fel un o’r goreuon erioed gan glwb o Gymru yn Ewrop ac fe fyddai hi’n gamp anferthol pe bae’r Nomadiaid yn gallu sicrhau lle yn y rownd nesaf.

Roedd clwb Lyngby o Ddenmarc yn ffefrynnau cryf i drechu Bangor yn hawdd, ond mi fydd y Dinasyddion yn ddigon bodlon eu bod yn dal ynddi ar ôl colli o un gôl yn unig yn y cymal oddi cartref.

Sgoriodd Bror Blume wedi 13 munud yn y Lyngby Stadion ac er i’r tîm cartref bwyso a phwyso, roedd Kevin Nicholson yn ddigon bodlon gyda’r canlyniad yn ei gêm gyntaf wrth y llyw i Fangor.

Colli oedd hanes Y Bala hefyd (1-2) yn erbyn FC Vaduz o Liechtenstein, ac felly bydd angen iddynt sgorio ddwywaith nos Iau os am unrhyw obaith o gamu i’r rownd nesaf.

Dechreuodd Y Bala’n araf ac roedden nhw’n colli 0-2 ar yr egwyl, ond fe gododd tîm Colin Caton y tempo yn yr ail hanner ac mae gôl Chris Venables wedi rhoi llygedyn o obaith i Hogiau’r Llyn cyn yr ail gymal yn y Rheinpark Stadion.