Carfan Cymru i herio Serbia

International Football – UEFA Euro 2016 – Qualifying Round Group B – Andorra v Wales
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 5 Jun 2017, 11:10

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi’r garfan ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Serbia ddydd Sul 11 Mehefin.

Bydd y gêm yn fyw ar Sgorio – ond mi fydd na un absenoldeb amlwg gan na fydd seren Cymru a Real Madrid, Gareth Bale ar gael gan ei fod wedi ei wahardd ar ôl casglu dau gerdyn melyn yn y grŵp hyd yma.

Mae Cymru yn y 3ydd safle yng Ngrŵp D yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, bedwar pwynt tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon.

Carfan Cymru:
Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams

Amddiffyn: Ben Davies, James Chester, Chris Gunter, Ashley Williams, Jazz Richards, Joe Walsh, Tom Lockyer, Gethin Jones

Canol Cae: Joe Allen, David Edwards, Emyr Huws, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Lee Evans, Harry Wilson

Ymosodwyr: Tom Lawrence, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Bradshaw, Ben Woodburn