Chris Coleman yn gadael ei swydd

International Football – UEFA Euro 2016 – Qualifying Round Group B – Wales v Belgium
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 17 Nov 2017, 20:58

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi fod Chris Coleman wedi gadael ei swydd fel rheolwr Cymru.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi fod Chris Coleman wedi gadael ei swydd fel rheolwr tîm cyntaf Cymru.

Cafodd Coleman ei benodi fel rheolwr yn ôl yn Ionawr 2012 yn dilyn cyfnod anodd i’r Gymdeithas Bêl-droed yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Llwyddodd Coleman i sicrhau lle Cymru yn Ewro 2016 – y tro cyntaf i Gymru sicrhau eu lle mewn twrnament rhyngwladol ers 1958 – gan arwain y tîm i’r rownd gynderfynol gan guro Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg ar y ffordd i’r pedwar olaf.

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi cyhoeddi fod Kit Symond hefyd wedi ymddiswyddo o’i rol fel hyfforddwr.