Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Moldova v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 2 Oct 2017, 23:19

Mae Chris Coleman wedi enwi carfan o 23 i wynebu Georgia a Gweriniaeth Iwerddon yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018. Mi fydd Cymru yn teithio i Tbilisi i herio Georgia ar nos Wener, 6 Hydref cyn croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Llun, 9 Hydref. Mi fydd y gemau yn fyw ar S4C.

Llwyddodd Cymru i sicrhau chwephwynt o’u dwy gêm ddiwethaf gan guro Awstria a Moldofa wrth i dîm Chris Coleman gamu i’r ail safle yng ngrŵp rhagbrofol D.

Mae dau enw newydd i’r garfan gyda golwr Preston, Chris Maxwell a chwaraewr canol cae Sheffield United David Brooks yn ennill eu lle am y tro cyntaf.

Cymru yn yr ail safle yng ngrŵp D, pedair pwynt tu ôl i Serbia cyn y ddwy gêm olaf yn y gemau rhagbrofol.

Carfan Cymru i wynebu Georgia a Gweriniaeth Iwerddon:
GOLWYR: Wayne Hennessey, Danny Ward, Chris Maxwell.

AMDDIFFYNWYR: Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu.

CANOL CAE: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Jonathan Williams, David Brooks.

YMOSODWYR: Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn.