Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Awstria a Moldofa

thumbnail_S4C – Cymru v Moldofa – 5.9.16
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 25 Aug 2017, 11:48

Chris Coleman yn enwi ei garfan o 25 i wynebu Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn 2il o Fedi a Moldofa yn Chisinau ar nos Fawrth y 5ed o Fedi. Mi fydd y ddwy gêm yn fyw ar S4C.

Gyda dim ond pedair gêm yn weddill yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, mae Cymru ac Awstria yn hafal ar wyth pwynt yr un yn y 3ydd ar 4ydd safle, pedwar pwynt tu ôl i Serbia ac Iwerddon sydd ar frig Grŵp D.

Bydd rhaid i Gymru ymdopi heb wasanaeth Joe Allen ar gyfer y gêm yn erbyn Awstria gan ei fod wedi ei wahardd am gasglu dau gerdyn melyn yn yr ymgyrch, ynghyd â Neil Taylor, sydd wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Mi fydd y ddau ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Moldofa.

Carfan Cymru i wynebu Awstria a Moldofa:
GOLWYR: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

AMDDIFFYNWYR: Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Jazz Richards, James Collins, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu.

CANOL CAE: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Lee Evans, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Jonathan Williams.

YMOSODWYR: Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn.