Cyfweliad Chris Coleman

presser-chris-coleman-gwefan-2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 20 Mar 2017, 20:40

Cafom gyfle i eistedd lawr hefo rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol cyn y gêm fawr yng ngrŵp D yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Wener (24 Mawrth). Mi fydd y gêm yn fyw ar Sgorio am 19:15 nos Wener, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Bydd Cymru yn teithio i’r Aviva Stadium yn Nulyn i wynebu Gweriniaeth Iwerddon nos Wener mewn gêm holl allweddol os yw Cymru yn gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Er dyw Cymru heb golli yn eu pedair gêm yng ngrŵp rhagbrofol D hyd yn hyn, dim ond chwephwynt mae’r tîm wedi ei gasglu ar ôl tair gêm gyfartal yn eu gemau diwethaf.

Gweriniaeth Iwerddon sydd ar frig y grŵp ar ôl curo tair o’u pedwar gêm agoriadol gan gasglu deg pwynt – ac os yw Cymru yn gobeithio cyrraedd Rwsia blwyddyn nesaf mi fydd rhaid i dîm Chris Coleman gasglu canlyniad ffafriol yn yr Aviva nos Wener.

Roedd y cyfweliad arbennig â Chris Coleman yn gyfle i drafod dyfodiad chwaraewyr ifanc, megis Ben Woodburn i’r garfan yn ogystal â thrafod paratoadau’r rheolwr cyn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.