Cyhoeddi gêm fyw Cwpan Cymru: Caernarfon yn erbyn y Rhyl

Caernarfon v Rhyl
Sgorio

Sgorio

Dydd Gwener, 6 Jan 2017, 14:50

Caernarfon yn erbyn y Rhyl fydd gêm fyw Sgorio ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

Fe fydd hi’n dipyn o achlysur ar yr Oval wrth i Gaernarfon, sy’n ail yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, groesawu’r Rhyl, sy’n nawfed yn Uwch Gynghrair Cymru Dafabet.

Roedd hi’n gêm gwpan i’w chofio y tro diwethaf aeth camerau byw Sgorio i Gaernarfon, wrth i’r Canêris fynd ddwy gôl ar y blaen yn erbyn y deiliaid, Y Seintiau Newydd, cyn i’r wal tu ôl i’r gôl syrthio ar y cae a’r Seintiau daro’n ôl i ennill o dair gôl i ddwy yn y pendraw,

Mwy: Caernarfon 2-3 Y Seintiau Newydd, 30 Tachwedd 2014

Ar ôl trechu Caerfyrddin o’r Uwch Gynghrair yn y drydedd rownd, bydd Caernarfon yn gobeithio am sioc arall yn y gwpan a chyrraedd Rownd yr Wyth Olaf am y tro cyntaf ers dros ddegawd.

Bydd y Rhyl, sy’n enillwyr y Gwpan ar bedwar achlysur, yn awyddus i osgoi croen banana pan fydd Niall McGuinness, y rheolwr ieuengaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru, yn arwain ei dîm i’r Oval.

 

Fe fydd S4C yn cadarnhau dyddiad ac amser y gêm wythnos nesaf.