Cyhoeddi gemau byw Sgorio

sgorio-grwp-8R1C4375

Mi fydd Sgorio yn darlledu 10 gêm fyw o ddechrau’r tymor hyd at ddiwedd mis Medi.

Yn dilyn y cyhoeddiad o drefn gemau’r tymor newydd mae Sgorio, S4C a’r Gymdeithas Bêl-Droed wedi dewis y 10 gêm gyntaf fydd yn cael eu darlledu o wahanol gystadlaethau ac ar amrywiaeth o blatfformau.

Yn ystod y cyfnod cyntaf o’r tymor mi fydd Sgorio yn arbrofi gyda gemau byw ar S4C ar nos Wener, ddydd Sadwrn a Sul, yn ogystal â darllediadau ar y we ar nosweithiau Iau.

Rhestr llawn o gemau UG Cymru 2017/18

Bydd tymor Sgorio yn dechrau ar ddydd Sul, 13 Awst gyda thrip i Barc Jenner pan fydd y newydd-ddyfodiaid, Y Barri yn herio Aberystwyth yn eu gêm gyntaf yn UG Cymru ers 13 mlynedd.

Y dydd Sadwrn canlynol, 19 Awst bydd y pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn croesawu’r Bala i Neuadd y Parc yn fyw ar S4C.

Wythnos yn ddiweddarach bydd Bangor a Phrestatyn yn creu hanes gyda’r darllediad byw cyntaf ar S4C o gêm UG Cymru ar Nos Wener, 25 Awst.

Bydd y sylw’n cael ei droi at y gemau rhyngwladol ar ddechrau mis Medi wrth i Gymru herio Awstria ar ddydd Sadwrn, 2 Medi cyn teithio i Foldofa ar nos Fawrth, 5 Medi – bydd y ddwy gêm yn fyw ar S4C.

Rhwng y ddwy gêm ryngwladol mi fyddwn ni’n darlledu gêm fyw o Gwpan Her Irn-Bru ar S4C gyda’r Seintiau Newydd a Chei Connah yn ymuno â’r gystadleuaeth yn yr 2il rownd ar ddydd Sul, 3 Medi.

Ar nos Iau, 7 Medi bydd cyfle i wylio Llandudno v Prestatyn yn fyw o Barc Maesdu ar ein gwefan neu ar Facebook Live.

Bydd y gêm rhwng Y Barri a Chaerfyrddin hefyd ar gael i’w gwylio ar y we ar nos Iau, 21 Medi.

Deuddydd yn ddiweddarach mi fyddwn ni’n fyw o Goedlan y Parc ar gyfer y frwydr rhwng Aberystwyth a Bangor.

Gemau byw Sgorio:
13/08 – Y Barri v Aberystwyth (17:15) – S4C
19/08 – YSN v Y Bala (17:15) – S4C
25/08 – Bangor v Prestatyn (19:30) – S4C
02/09 – Cymru v Awstria (19:45) – S4C
03/09 – 2il rownd Cwpan Her Irn-Bru – S4C
05/09 – Moldofa v Cymru (19:45) – S4C
07/09 – Llandudno v Prestatyn (19:45) – WE
21/09 – Y Barri v Caerfyrddin (19:45) – WE
23/09 – Aberystwyth v Bangor (17:15) – S4C
30/09 – Gêm i’w gadarnhau
06/10 – Georgia v Cymru (17:00) – S4C
09/10 – Cymru v Gwe. Iwerddon (19:45) – S4C