Cyhoeddi lleoliadau Cwpan Cymru

Cwpan Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi lleoliadau y ddwy gêm yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2016-17.

Bydd Y Bala yn wynebu Caernarfon ar Faes Corbett Sports, Y Rhyl gyda’r deiliaid, Y Seintiau Newydd, yn wynebu gap Cei Connah ar Faes Stadiwm Prifysgol Bangor, Bangor.

Cynhelir y ddwy gêm ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill gyda’r Seintiau Newydd v gap Cei Connah yn cychwyn am 2.30 cyn Y Bala v Caernarfon fydd yn cael ei dangos yn fyw ar S4C am 5.15.

Wrth i’r enwau ddod allan o’r het nos Sadwrn diwethaf, roedd pawb am osgoi’r deiliaid, Y Seintiau Newydd, ond ar ôl colli yn eu herbyn 5-0 yn y rownd gyn derfynol llynedd bydd gan gap Cei Connah bwynt i’w brofi wrth geisio cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers colli yn erbyn Bangor ym 1997-98.

A thra bod Y Seitniau wedi codi’r gwpan chwe gwaith yn eu hanes, mae’r ddau glwb yn y rownd gynderfynol arall yn anelu i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Er fod clwb o’r dref wedi chwarae yng Nghwpan Cymru yn ôl ym 1877, ac er i dîm Colin Caton cyrraedd y rownd gynderfynol ar dair achlysur yn y chwe mlynedd diwethaf, dyw’r Bala erioed wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Ac mae’n rhaid mynd yn ôl i 1987-88 ar gyfer y tro diwethaf i Gaernarfon ymddangos mewn rownd gynderfynol wrth i’r Canaries golli 3-1 dros ddau gymal yn erbyn Caerdydd. Felly beth bynnag fydd yn digwydd yn y gêm fyw, bydd un tîm yn creu hanes!