Cymru 0-1 Gwer. Iwerddon

tabl cymru 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Oct 2017, 21:12

Sgoriodd James McClean unig gôl y gêm wrth i Cymru orffen yn y 3ydd safle yng ngrŵp D gyda’r Gwyddelod yn cipio’r ail safle a lle yn y gemau ail gyfle.

Mae’r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 drosodd i Gymru ar ô i James McClean Sgorio unig gôl y gêm i yrru’r Gwyddelod i’r gemau ail-gyfle.

Er cafodd Cymru y gorau o’r meddiant ond cafodd tîm Chris Coleman eu rhwystro gan amddiffyn cadarn a corfforol y Gwyddelod.

Llwyddodd Gweriniaeth Iwerddon sgorio cyn yr awr, Jeff Hendrick yn dwyn y bêl gan Ashley Williams cyn croesi i’r cwrt cosbi lle roedd McClean yn barod i ergydio.

Bydde buddugoliaeth i Gymru wedi sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle, ond siom ar y noson i Chris Coleman a’r tîm cenedlaethol.