Cymru 1-0 Awstria

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Wales v Austria
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 2 Sep 2017, 21:59

Ben Woodburn yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru i sicrhau buddugoliaeth allweddol yng ngrŵp D.

Ar ôl pum gêm gyfartal yn olynol yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 roedd rhaid i Gymru ennill yn erbyn Awstria i cadw’r freuddwyd o gyrraedd Rwsia yn fyw.

Llwyddod Ben Woodburn i sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, ar ôl dod ar fel eilydd, i sicrhau fod Cymru dim ond dau bwynt tu ôl i’r Weriniaeth Iwerddon sydd yn yr ail safle a pedwar pwynt tu ôl i Serbia sydd ar frig grŵp D.

Gyda tair gêm yn weddill yng ngrŵp D, mi fydd Cymru y nawr yn teithio i Moldofa nos Fawrth yn gobeithio sicrhau triphwynt allweddol arall yn eu ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Bydd Cymru v Moldofa yn fyw ar S4C nos Fawrth.