Cyfle i dîm dan 20 Cymru gyrraedd rownd gynderfynol Twrnamaint Toulon

P170602-020-Wales_Bahrain_Toulon
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 1 Jun 2017, 11:39

Mae tîm dan 20 Cymru yn cystadlu yn Nhwrnamaint Toulon am y tro cyntaf erioed, gyda thîm Rob Page yn herio’r Traeth Ifori – enillwyr y twrnament yn ôl yn 2010 – heddiw (dydd Llun) am 16:00.

Mae tîm dan 20 Cymru yn cystadlu yn Nhwrnamaint Toulon am y tro cyntaf erioed, twrnamaint rhyngwladol sydd yn cael ei gynnal yn flynyddol yn ardal Region-du-Var yn ne Ffrainc.

Wedi dwy gêm yng Ngrŵp B y gystadleuaeth mae Cymru yn eistedd yn yr ail safle ar ôl sicrhau gêm gyfartal (0-0) yn erbyn Ffrainc a buddugoliaeth yn erbyn Bahrain (1-0), ond mi fydd y tîm ifanc yn wynebu sialens wrth herio’r Traeth Ifori (Ivory Coast) – enillwyr y gystadleuaeth yn 2010 – sydd ar frig Grŵp B.

Os yw Cymru yn fuddugol heddiw mi fydd tîm Rob Page yn gorffen ar frig y grŵp ac yn camu i’r pedwar olaf – ond os yw’r tîm ddim yn sicrhau buddugoliaeth dim ond y tîm gorau yn yr ail safle fydd yn camu i’r rownd nesaf.

Twrnamaint Toulon
Mae tri grŵp yn y gystadleuaeth, gyda Lloegr eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol gan ennill grŵp A gydag Angola yn gorffen yn yr ail safle gyda pedwar pwynt a gwahaniaeth goliau o +3.

Yng nghrŵp B mae Cymru yn brwydo am eu lle yn y rownd nesaf gyda’r Traeth Ifori sydd wedi ennill eu dwy gêm hyd yn hyn.

Y Weriniaeth Siec, Yr Alban a Brasil sydd yn brwydro yng nghrŵp C. Y Weriniaeth Siec sydd ar frig y grŵp gyda chwephwynt a gwahaniaeth goliau o +3. Mae’r Alban a Brasil yn rhannu’r ail safle gyda triphwynt yr un. Mi fydd yr Alban yn wynebu Indonesia sydd wedi gorffen ar waelod y grŵp a’r Weriniaeth Siec yn herio Brasil, y ddwy gêm i’w chwarae yfory.

Cymru dan 20
Llwyddodd Daniel James rwydo unig gôl Cymru o’r smotyn yn erbyn Bahrain i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth dydd Gwener ddiwethaf.

Yng ngharfan Cymru ar gyfer y gystadleuaeth y mae Regan Poole (Manchester United), Nathan Broadhead (Everton), Tyler Roberts (West Bromwich Albion) a Jon Rodon (Abertawe).