Cymru v Gweriniaeth Iwerddon

iwerddon
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Oct 2017, 01:39

Ymunwch â Dylan Ebenezer a’r tîm rhyngwladol, Dai Davies ac Owain Tudur Jones, yn ogystal â Nic Parry a Malcolm Allen yn y blwch sylwebu a Nicky John ar yr ystlys ar gyfer gêm dyngedfennol rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018. Nos Lun am 7:15 gyda’r gic gyntaf, 7.45 ar S4C.

Mae Cymru yn dychwelyd o daith hir ac anodd i Georgia i herio Gwyddelod Martin O’Neill gafodd ddechrau campus i’r ymgyrch yng Ngrwp D, ond sydd wedi baglu’n sylweddol wrth weld y llinell derfyn.

Roedd hi’n gêm galed ddi-sgôr a digyfaddawd yn Nulyn ym mis Mawrth wrth i dacl hyll Neil Taylor ar Seamus Coleman dorri coes y Gwyddel ar arwain at gerdyn coch i’r Cymro.

Mae popeth yn y fantol, a bydd Stadiwm Dinas Caerdydd dan ei sang nos Lun wrth i’r ddau dîm a’r ddwy wlad wybod yn iawn fod buddugoliaeth am sicrhau’r ail safle, ac yn sgil hynny, mwy neu lai sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Tachwedd.