Deg dyn Cymru yn cipio pwynt yn Nulyn

P170324-036-Ireland_Wales
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 24 Mar 2017, 21:57

Di-sgôr oedd hi yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Aviva er i Gymru chwarae dros 20 munud gyda dyn yn brin wedi i Neil Taylor weld cerdyn coch am dacl wyllt ar Seamus Coleman.

Roedd rhaid i gapten Iwerddon, Coleman adael y maes ar stretsier ac mae’n debyg fod yr anaf i’w goes yn un difrifol.

Cafodd ddim llawer o gyfleon eu creu yr un pen y cae na’r llall ond roedd rhaid i Gymru amddiffyn yn gadarn yn yr eiliadau olaf wrth i’r tîm cartref geisio gwneud y mwyaf o’u dyn o fantais.

Mae’r canlyniad yn gadael Cymru yn y 3ydd safle yng Ngrŵp D, bedwar pwynt tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon.