Derwyddon Cefn v Bangor

trail board
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 14 Rhag 2017, 22:09

Bangor yn teithio i’r Graig nos Sadwrn i wynebu Derwyddon Cefn yn fyw ar Sgorio. Ymunwch a Dylan Ebenezer, Nicky John ac Owain Tudur Jones am 17:00, gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Derwyddon Cefn v Bangor | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Mae’r ddau glwb yn mwynhau tymor da gyda Bangor yn brwydro am le’n y ddau safle uchaf i sicrhau pêl-droed Ewropeaidd, tra bod y Derwyddon yn cystadlu’n gryf yn y Chwech Uchaf.

Mae Bangor ar rediad campus yn ddiweddar ac heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, cyfartal 1).

Ond mae’r Derwyddon wedi bod yn ddigon cadarn ar y Graig gan gadw llechen lân yn hanner eu gemau cartref yn UGC y tymor hwn.

Derwyddon Cefn oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r timau gwrdd (0-1 yn Nantporth), ond dyw’r Derwyddon heb ennill gartref yn erbyn Bangor ers Mawrth 2009.

Gêm ddiwethaf:
Bangor 0-1 Derwyddon Cefn (27/10/17)