Derwyddon Cefn v Caerfyrddin

Derwyddon Cefn v Caerfyrddin
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Jan 2017, 18:57

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John a thîm Sgorio ar gyfer cyffro unigryw penwythnos olaf hanner cyntaf tymor Uwch Gynghrair Cymru Dafabet. Y gêm fyw sy’n cael prif sylw’r rhaglen bydd Derwyddon Cefn yn erbyn Caerfyrddin. Ac mae Caerfyrddin yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn y chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor. Dydd Sadwrn am 5 gyda’r gic gyntaf am 5:15.

Bydd yr holl gemau allweddol i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y chwech uchaf ar doriad y tymor yn dechrau am 5.15 a bydd Sgorio yn dod â’r cyfan o’r cyffro atoch yn ystod y prynhawn.

Yn ogystal, bydd gwasanaeth canlyniadau’r prynhawn a rhagolwg o’r gêm fyw am 4.30 ar s4c.cymru/sgorio

Heddiw mewn hanes

25 Ebrill

Ar y diwrnod yma yn 1981 llwyddodd Abertawe i faeddu Chelsea ar y Vetch diolch i goliau gan Neil Robinson, Jimmy Hadziabdic a Robbie James.