Dr Wayne Allison yw rheolwr newydd Met Caerdydd

wayne allison
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 9 Feb 2017, 16:48

Mae Dr. Christian Edwards wedi cymryd cam yn ôl, ond mi fydd yn parhau i weithio’n agos gyda’r tîm fel Îs-reolwr a Chyfarwyddwr Pêl-droed.

Mae Met Caerdydd wedi llwyddo i sichrau lle yn Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Nawr, yn llygadu lle yn Ewrop, mae’r clwb wedi penderfynu gwneud newidiadau oddi ar y cae yn y gobaith o wthio’r clwb ymhellach.

Cyn-flaenwr yw Wayne Allison sgoriodd 173 o goliau mewn 752 ymddangosiad mewn gyrfa ble chwaraeodd i Halifax, Watford, Bristol City, Swindon Town, Huddersfield Town, Tranmere, Sheffield United a Chesterfield.

Bydd Allison yn cymryd yr awennau am y tro cyntaf nos Wener wrth i’r myfyrwyr deithio i Faes Tegid i herio’r Bala.