Serbia 1-1 Cymru

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Serbia v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 11 Jun 2017, 19:41

Pum gêm gyfartal yn olynol yng nghrŵp D i dîm Chris Coleman wrth i Aleksandr Mitrovic sicrhau pwynt i Serbia ar ôl i Ramsey rwydo o’r smotyn i Gymru.

Mae Cymru yn parhau yn ddi-golli yn eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2018, ond mi fydd Chris Coleman yn teimlo’n rhwystredig ar ôl i’w dîm fethu a sicrhau’r triphwynt ar ôl bod ar y blaen.

Sgoriodd Aaron Ramsey o’r smotyn ar ôl i’r dyfarnwr gosbi Serbia wedi i Milivojevic dynnu Sam Vokes yn y cwrt cosbi. Er i Gymru sicrhau’r fantais ar yr egwyl sgoriodd Mitrovic ar ôl 73 munud wedi cyfnod da o chwarae gan y tîm cartref.

Cafodd Ramsey gyfle arall yn yr ail hanner, gwaith da gan Joe Allen yn bwydo’r bel i Ramsey yn y cwrt cosbi ond i’w ergyd daro golwr Serbia.

Wedi’r gêm gyfartal mae Cymru yn aros yn y drydydd safle yng ngrŵp D, pedwar pwynt tu ôl i Serbia a’r Weriniaeth Iwerddon sydd yn rhannu’r brig gyda 12 pwynt.

Mi fydd Cymru yn croesawu Awstria i Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu gêm nesaf yng ngrŵp D ar yr 2il o Fedi, cyn teithio i Moldova ar y 5ed o Fedi.