Gareth Bale allan o garfan Cymru

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Moldova v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 2 Oct 2017, 07:53

Ni fydd Gareth Bale ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon oherwydd anaf. Roedd Bale yn absennol o garfan Real Madrid â drechodd Espanyol 2-0 nos Sul, ond roedd gobaith fod Bale ar gael ar gyfer gemau olaf Cymru yn y gemau rhagbrofol.

Ar fore Mawrth (3 Hydref) daeth y cadarnhad gan Cymdeithas Bêl-droed Cymru ni fydd seren Real Madrid, Gareth Bale ar gael i wynebu Georgia a Gweriniaeth Iwerddon yn gemau olaf Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mi fydd Tom Bradshaw yn ymuno â’r garfan yn absenoldeb Gareth Bale.

Enillodd Gareth Bale y wobr Chwaraewr y Chwaraewyr yn seremoni wobrwyo’r gymdeithas nos Lun.

Mi fydd Cymru yn wynebu Georgia yn Tbilisi prynhawn Gwener am 5 cyn croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun gyda’r gic gyntaf am 7:45 – mi fydd y ddwy gêm yn fyw ar S4C.