Gêm fawr ar Y Graig

3012_0564e

Gall Y Seintiau Newydd fynd pum pwynt yn glir ar frig tabl UG Cymru JD os medran nhw ennill oddi cartref yn erbyn Derwyddon Cefn ar y Graig nos Fawrth.

Derwyddon Cefn v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth – 19:45
Ond fydd hi ddim yn hawdd i dîm Scott Ruscoe gan nad yw’r Derwyddon wedi colli gartref ers gêm gynta’r tymor nôl ym mis Awst (Cefn 0-3 Met).

Mae’r Derwyddon yn parhau i fwynhau uchelfannau’r Chwech Uchaf ar ôl curo’r Barri gartref brynhawn Sadwrn.

Dyw record amddiffynnol y ddau dîm ddim yn rhy anhebyg gyda’r Seintiau wedi ildio 13 gôl mewn 14 gêm a’r Derwyddon wedi ildio 15… ond mae’r pencampwyr wedi sgorio ddwywaith mwy o goliau na’r Derwyddon (34/17).

Mae na dros 10 mlynedd ers i’r Derwyddon guro’r Seintiau yn UG Cymru (1-0, Ricky Evans – Awst 2007) ac mae’r Seintiau ar rediad o 10 gêm gynghrair heb golli yn erbyn y Derwyddon ers hynny (ennill 9, cyfartal 1).

Yn y 10 gêm rhwng y clybiau ers y fuddugoliaeth i’r Derwyddon yn 2007, mae’r Seintiau wedi sgorio 29 gôl, tra bod y Derwyddon ond wedi sgorio dwy.

Roedd y gêm ddiwethaf rhwng y timau ar y Graig yn achlysur hanesyddol, gan mae dyna’r gêm ble dorrodd YSN record y byd am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn olynol (27).