Gêm fawr i Aberystwyth

ABER CELEBRATE GOALKEEPER CHRIS MULLOCK’S GOAL
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 5 Jan 2017, 10:41

Dim ond un gêm sydd yn cael ei chwarae yn UG Cymru y penwythnos yma, ond mae honno yn gêm holl bwysig i Aberystwyth yn eu hymdrech i gyrraedd y Chwech Uchaf.

Aberystwyth v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 13:30
Mae Aberystwyth angen buddugoliaeth yn erbyn Derwyddon Cefn os am obaith gwirioneddol o gyrraedd y Chwech Uchaf y penwythnos nesaf.

Mae tîm Matthew Bishop bedwar pwynt y tu ôl i Gaerfyrddin yn y 6ed safle, ond mae eu gwahaniaeth goliau 13 yn waeth na’r Hen Aur.

Felly, er na fyddai gêm gyfartal yn erbyn Cefn yn sicrhau eu lle yn y Chwech Isaf, fe fyddai angen gwyrth arnyn nhw i wyrdroi y bwlch o 13 gôl yn eu gêm olaf cyn yr hollt oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd.

Dyw’r Derwyddon ond wedi ennill tair o’u 20 gêm gynghrair y tymor hwn (15%) ond gyda gêm wrth gefn fe all tîm Huw Griffiths ddringo allan o safleoedd y cwymp erbyn yr hollt.

Mae’r Derwyddon wedi colli eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf gan fethu a sgorio ym mhob un o’r gemau hynny (dim gôl gynghrair ers mis Tachwedd).

Bydd rhaid i Aber ddelio gyda colli eu chwaraewr canol cae Joe Clarke sydd wedi gadael y clwb yr wythnos yma, ond mi fydd eu blaenwr newydd ar gael, Lee Healey, i wynebu ei gyn-glwb ar y Graig.

Gêm ddiwethaf:
Derwyddon Cefn 0-3 Aberystwyth (16/12/16)