Gemau canol wythnos

2-IMG_7897

Hanner ffordd drwy’r tymor ac mae’r eira wedi effeithio ar drefn y gemau, felly bydd dwy gêm yn cael ei chwarae nos Fawrth yma, yn ogystal â gêm fyw ar Facebook nos Fercher rhwng Llandudno a Met Caerdydd.

Nos Fawrth, 19 Rhagfyr

Prestatyn v Derwyddon Cefn | Nos Fawrth – 19:45
Bydd y ddau dîm yn awyddus i roi siom y penwythnos diwethaf y tu ôl iddynt yn dilyn colledion yn erbyn Aberystwyth a Bangor.

Llithrodd Prestatyn i’r ddau isaf ar ôl colli 7-1 ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn – canlyniad sydd yn hafal â’u colled trymaf erioed yn UG Cymru – 6-0 vs YSN (11/10/14), 1-7 vs YSN (20/04/13).

Mae’r Derwyddon yn dal i fod yn y Chwech Uchaf, er colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf.

Hon fydd y 10fed gêm rhwng y ddau glwb yn UG Cymru, ac hyd yma mae eu record yn hafal – tair buddugoliaeth yr un a tair gêm gyfartal.

Gêm ddiwethaf:
Derwyddon Cefn 2-2 Prestatyn (15/09/17)

Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Nos Fawrth – 19:45
Hanner ffordd drwy’r tymor ac mae hi’n dynnach ger y brig nac y mae wedi bod ers sawl tymor, ond mae perygl i’r Seintiau gamu’n glir o’r pac pe bae nhw’n ennill eu gemau wrth gefn.

Sgoriodd Cei Connah bum gwaith yn erbyn Aberystwyth yn eu gêm ddiwethaf a bydd Andy Morrison yn gobeithio gall y Nomadiaid berfformio cystal yng Nghroesoswallt nos Fawrth.

Oherwydd gohiriadau, hon fydd gêm gyntaf YSN ers eu gêm gwpan yn erbyn Penrhyncoch ar y 1af o Ragfyr, tybed felly os yw’r seibiant wedi bod yn llesol yntau wedi tarfu ar rediad y pencampwyr.

Dyw Cei Connah heb sgorio gôl gynghrair yn Neuadd y Parc ers Rhagfyr 2012, ac heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn YSN ers Hydref 1995.

Gall YSN fod y tîm cyntaf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf eleni gyda buddugoliaeth nos Fawrth.

Gêm ddiwethaf:
Cei Connah 0-1 Y Seintiau Newydd (20/11/17) Rownd Gynderfynol Cwpan y Gynghrair
Cei Connah 2-2 Y Seintiau Newydd (10/10/17)

Nos Fercher, 20 Rhagfyr

Llandudno v Met Caerdydd | Nos Fercher – 19:45 (Facebook)
Bydd Llandudno’n herio Met Caerdydd yn fyw ar Facebook nos Fercher gan obeithio cadw eu gobeithion o gyrraedd y Chwech Uchaf yn fyw.

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu pum gêm gynghrair ers i Iwan Williams gymryd yr awennau, bydd y rheolwr newydd yn disgwyl ymateb gan ei dîm yn dilyn y golled siomedig yn erbyn Y Drenewydd yr wythnos diwethaf.

Colli oedd hanes Met Caerdydd y penwythnos diwethaf hefyd (Met 1-2 Bala), ond gyda 30 o bwyntiau ar y bwrdd yn barod, mae hogiau Christian Edwards yn debygol o sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol.

Dim ond teirgwaith y mae’r ddau glwb wedi cwrdd yn UG Cymru (Met yn ennill 2, cyfartal 1), felly mae Llandudno’n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn y myfyrwyr.

Gêm ddiwethaf:
Met Caerdydd 1-0 Llandudno (08/10/17)