Goetre wedi eu gwahardd o Gwpan Cymru

Cwpan Cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Jan 2017, 17:00

Mae Goetre wedi eu gwahardd o Gwpan Cymru ar ôl dewis chwaraewr anghymwys yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth yn erbyn Llandudno. Mi fydd Llandudno y nawr yn dychwelyd i’r gystadleuaeth i wynebu Bangor ar gae Stadiwm Prifysgol Bangor.

Digwyddodd y toriad rheol yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn y gêm rhwng Goetre a Llandudno ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 3, lle enillodd Goetre 2-0.

Oherwydd y penderfyniad gan y Gymdeithas Bêl-droed, nid yw gôl Kris Leek yn erbyn Llandudno yn gymwys i gystadleuaeth Gôl y Mis Rhagfyr.

Mi fydd Bangor v Llandudno ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru yn cael ei chwarae ar benwythnos 27-29 Ionawr.