Gweriniaeth Iwerddon v Cymru

Iwerddon v Cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 20 Mar 2017, 12:53

Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2018 Grŵp D, Gweriniaeth Iwerddon v Cymru yn fyw ar S4C nos Wener Mawrth 24 am 19:15, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Mae pob gêm ryngwladol ragbrofol yn bwysig, ond mae hon yn gwbl allweddol os yw Cymru am gadw’r freuddwyd yn fyw o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia. Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn gôl geidwad Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwladol Owain Tudur Jones i weld yr ornest yn fyw o stadiwm orlawn Aviva yn Nulyn. Gyda sylwebaeth gan Nic Parry a Malcolm Allen. Sgorio Rhyngwladol nos Wener, 24 Mawrth am 19:15 gyda’r gic gyntaf am 19.45.